91Ï㽶ÊÓƵ

En

Adeiladu

Mae ein cyrsiau adeiladu rhan amser yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.

Mae digon o ddewis ar gyfer unigolion sy’n frwd dros DIY ac sy’n awyddus i wella eu sgiliau gyda chyrsiau fel Cynnal a Chadw Cartref Sylfaenol a’n cwrs hynod boblogaidd, Merched yn y Diwydiant Adeiladu. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant adeiladu, p’un a ydych yn dymuno ennill cymhwyster diogelwch at ddibenion cydymffurfio, neu eisiau uwchsgilio drwy gwrs Peirianneg Sifil.

Gyda gweithdai wedi’u cyfarparu’n dda, yn ogystal â dewis o leoliadau hyblyg oddi ar y safle, gallwn fodloni anghenion ystod eang o ddysgwyr. Adeiladu yw’r 5ed diwydiant mwyaf yng Nghymru, felly mae astudio cymhwyster yn y sector llewyrchus hwn yn ddewis ardderchog.

12 cwrs ar gael

Fy nod hirdymor yw dod yn Swyddog Iechyd a Diogelwch neu’n Rheolwr Gyfarwyddwr hyd yn oed. Bu’n freuddwyd gen i erioed ac mae mynychu’r cwrs hwn yn fy helpu i ddatblygu yn fy ngyrfa. Rwy’n hoff iawn o’r arddull addysgu gan iddo gynnal fy ngallu i ganolbwyntio a’m helpu i fwynhau’r hyn oeddwn yn ei ddysgu.

Shakira Reardon
Cskills Awards Cynllun Hyfforddi Diogelwch Goruchwyliwr Safle (SSSTS)

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Gwnewch gais nawr!
Darganfod mwy