Merched Crosskeys yn bencampwyr chwaraeon Cymru o hyd
5 Mai 2023
Llwyddodd Academi Rygbi Merched 91Ï㽶ÊÓƵ i gadw eu coron am y drydedd blwyddyn yn olynol ar ôl eu buddugoliaeth 17-0 yn erbyn Coleg Llanymddyfri yn Rowndiau Terfynol Cystadleuaeth Genedlaethol Dan 18 oed Ysgolion a Cholegau Undeb Rygbi Cymru.
Myfyrwyr 91Ï㽶ÊÓƵ yn fuddugol yn rowndiau terfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru
10 Mawrth 2023
Mae myfyrwyr 91Ï㽶ÊÓƵ wedi cystadlu yn erbyn cannoedd o gystadleuwyr eraill ar draws y wlad fel rhan o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru. Eleni, arddangosodd 113 o fyfyrwyr eu gallu, eu cymhwysedd a’u gwybodaeth gan ennill cyfanswm o 17 o fedalau yng nghategorïau aur, arian ac efydd.
Cwrdd â'r Dysgwr: Lloyd Sheppard yn Rhoi ei Yrfa Chwaraeon ar Waith
20 Chwefror 2023
Mae dysgwr Hyfforddiant Chwaraeon a Datblygu BTEC, Lloyd Sheppard, yn athletwr dygnwch sy'n arbenigo mewn rhedeg 10km. Gyda gwir gariad at chwaraeon, penderfynodd ddilyn BTEC yn y pwnc ar Gampws Crosskeys.
Myfyrwyr 91Ï㽶ÊÓƵ yn cael eu dewis ar gyfer Carfan Genedlaethol WorldSkills y DU
8 Chwefror 2023
Llongyfarchiadau i 3 myfyriwr talentog 91Ï㽶ÊÓƵ sydd wedi cael eu dewis o blith cannoedd o gystadleuwyr i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yng Ngharfan Genedlaethol WorldSkills y DU.
Eich cefnogi i gyrraedd eich potensial
29 Ionawr 2023
Mae cychwyn yn y coleg yn gam mawr sy'n cynnwys addasu i nifer o bethau newydd. Rydym bob amser yn blaenoriaethu ein myfyrwyr yma yn 91Ï㽶ÊÓƵ. O gymorth academaidd i lesiant personol, rydym yma i chi bob amser! Dyma Libby-Mae Ford, cyn-fyfyriwr, yn sgwrsio â ni am ei phrofiad o astudio cyrsiau Safon Uwch a sut aeth hi ymlaen i ysgrifennu llyfr am iechyd meddwl o'r enw Through the Hourglass.
Y Canlyniadau gorau erioed yn WorldSkills UK
29 Tachwedd 2022
Cawsom ddathlu ein canlyniadau gorau erioed yn rowndiau terfynol WorldSkills UK. Fe lwyddom i ddringo i fod yn un o'r tri uchaf yn y Deyrnas Unedig yng nghystadlaethau’r brif ffrwd a sylfaen, ond ar ben hynny, ni bellach yw'r coleg sy'n perfformio orau yng Nghymru!